Contact Us

S

hwl di Mwl






TERMS & CONDITIONS


DYCHWELYD ARCHEB
Byddwn yn hapus i ad-dalu unrhyw un sydd ddim yn hollol hapus gyda’i harcheb. Gofynnir i chi bostio’r eitem yn ol atom o fewn 10 diwrnod o’i derbyn (oni bai ei bod yn wallus). Dim ond os yw’r dilledyn heb ei wisgo na’i olchi ac yn lan allwn ddanfon ad-daliad atoch. Mi fyddwch yn derbyn yr ad-daliad yn yr un modd a’n talwyd yn wreiddiol. Ni allwn ad-dalu eich costau postio chithau - mi fydd unrhyw gludiant gwreiddiol yn cael ei dynnu allan o’r ad-daliad.

TALU
Gallwch dalu ar-lein yn ein man talu diogel, defnyddir Securetrading sef cwmni cydnabyddedig sy’n derbyn cerdiau credid a debid. Gallwch gysylltu a ni ar y ffon i dalu’n uniongyrchol, neu danfon siec at y cyfeiriad ar ein gwefan.

DERBYN EICH ARCHEB
Ceisiwn sicrhau bod y nwyddau a dangosir mewn stoc y’w dosbarthu’n syth, ac fel rheol mi fydd archeb yn cael ei postio o fewn 1-2 diwrnod o’i derbyn. Ar gyfnodau prysyr mae’n bosib y bydd archeb yn cymryd i fyny hyd at 7 diwrnod (gwaith) cyn cael ei dosbarthu. Mae croeso i chi gysylltu a ni er mwyn tracio unrhyw archeb.

NWYDDAU
Mae ein crysau i gyd wedi eu cynllunio a’u hargraffu yng Nghymru. Argraffwyd pob crys gyda sgrin-sidan yn unigol, a nifer cyfyngedig o bob cynllun sy’n cael eu hargraffu. Defnyddiwn grysau-t 100% cotwm. Hoodies - Mae ein hoodies ‘vintage’ i gyd yn 100% cotwm, a pob hoodie arall yn gymysgedd 70% cotwm 30% polyester. Gallwch olchi pob crys mewn peiriant golchi ar dymheredd o 40 degree. Oni nodir yn wahanol, gallwch smwddio’r print ar yr ochr iawn. Nid ydym yn anog sychu’r crysau mewn peiriant sychu dillad.
Mae pob ymdrech wedi ei cymryd i adlewyrchu lliwiau’r crysau yn gywir, ond mae’r lliwiau gwelwch chithau yn dibynu ar eich moniter, felly gall amrywio ychydig o’r hyn welwch ar eich sgrin.
Cedwir yr hawl i newid ein prisau heb rybydd, ac mae’r prisau dangosir yn cynnwys unrhyw TAW.

PRYNU NWYDDAU
Unwaith y byddwch wedi talu ar-lein ni fydd yn bosib newid eich archeb heb gysylltu a ni naill a’i ar e-bost sales@shwldimwl.com neu ffon 01994 448 626. Fe gedwir yr hawl i wrthod archeb os
*Bydd yr eitem allan o stoc
*Bydd Securetrading yn methu derbyn eich taliad
*Os oes gennym ninnau gamgymeriad ynglyn a gwybodaeth y cynnyrch
Byddwn yn cysylltu a chi os oes unrhyw broblem ynglyn a’ch archeb
Os yn berthnasol, gallwch diddymu eich archeb yn unol a’r ‘Distance Selling Regulations’ os yw’r archeb wedi ei bostio rhaid i chi e'i ddychwelyd cyn derbyn ad-daliad.

PREIFATRWYDD
Gallwn ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost er mwyn hyrwyddo ein cynnyrch, ond ni fyddwn yn rhannu eich manylion gyda unrhyw gwmni arall. Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu cadw yn ein bas-data ni yn unig.

CYSYLLTU/CONTACT US
Send an email to shwldimwl now!
between 9am & 9pm 01994 448626 Drwy'r post Shwl di Mwl, Sarnau, Llanboidy, Hen-dy-Gwyn, Sir Gaerfyrddin, SA34 0EX